Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 29 Ebrill 2015

 

Amser y cyfarfod:
13.30

 

 

 

 

Agenda

(261)v2

 

<AI1>

1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth (45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gweld y Cwestiynau

</AI1>

<AI2>

Datganiad gan y Llywydd

Cyhoeddodd y Llywydd fod y Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a’r Bil Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar 29 Ebrill 2015.

</AI2>

<AI3>

2 Cwestiynau i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus (45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gweld y Cwestiynau

</AI3>

<AI4>

3 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar yr ymchwiliad i arferion gorau o ran y gyllideb Rhan 2 - Cynllunio gweithdrefnau cyllidebol newydd a’u rhoi ar waith (60 munud)

NDM5748 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei ymchwiliad i Arferion Gorau o ran y Gyllideb Rhan 2 - Cynllunio gweithdrefnau cyllidebol newydd a'u rhoi ar waith, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Mawrth 2015.

 

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Ebrill 2015.

 

Dogfennau Ategol

 

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Ymateb Llywodraeth Cymru

</AI4>

<AI5>

4 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

NDM5747 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi pwysigrwydd cefn gwlad Cymru i economi Cymru;

 

2. Yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu'r sector amaethyddol yng Nghymru;

 

3. Yn galw am roi mesurau sydd wedi'u cynnwys yn Neddf Lleoliaeth 2011 ar waith yn llawn yng Nghymru fel y gall cymunedau wneud cais am asedau lleol, fel swyddfeydd post a thafarndai, sy'n wynebu'r bygythiad o gael eu cau;

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu amserlen ar gyfer cyflwyno gweddill prosiect Cyflymu Cymru, sy'n  effeithio ar fusnesau a thrigolion mewn cymunedau gwledig; a

 

5. Yn gresynu at gau banciau'r stryd fawr yng nghefn gwlad Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i hwyluso trafodaethau ar fodel bancio cymunedol i sicrhau bod gwasanaethau dros y cownter yn parhau i fod yn hyfyw yng nghefn gwlad Cymru.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn croesawu'r cyhoeddiad yng Nghyllideb Llywodraeth y DU 2015 i ymestyn y cyfnod y gall ffermwyr hunangyflogedig nodi eu helw fel cyfartaledd o ddwy flynedd i bum mlynedd at ddibenion treth incwm, gan helpu dros 3,000 o ffermwyr unigol yng Nghymru i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

 

Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn croesawu'r ffaith bod cyllid ar gyfer Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru wedi cael ei adfer ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r CFfI i sicrhau ateb cynaliadwy hir dymor.

 

Gwelliant 3 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i helpu ardaloedd gwledig i ffynnu drwy hyrwyddo ffermio cyfran a chynllunio olyniaeth.

 

Gwelliant 4 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwynt 3 a rhoi'r canlynol yn ei le:

 

Yn cydnabod yr angen i ddatblygu dull penodol i Gymru o ymdrin ag asedau cymunedol, sy'n adlewyrchu anghenion Cymru ac sy'n seiliedig ar ymgynghori eang yng Nghymru.

 

[Os derbynnir gwelliant 4, bydd gwelliant 5 yn cael ei ddad-ddethol]

 

Gwelliant 5 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Ym mhwynt 3, dileu 'sydd wedi'u cynnwys yn Neddf Lleoliaeth 2011 ar waith yn llawn yng Nghymru' a rhoi 'ar waith' yn ei le.

</AI5>

<AI6>

5 Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

NDM5746 Aled Roberts (Gogledd Cymru):

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod cynllun blaenllaw ac aneffeithiol Llywodraeth Cymru, Twf Swyddi Cymru, wedi'i gau yn sydyn, heb unrhyw beth i gymryd ei le.

 

2. Yn nodi bod adroddiad gwerthuso interim 2014 ar Twf Swyddi Cymru wedi canfod:

 

a) y byddai 73 y cant o bobl ifanc wedi dod o hyd i gyflogaeth heb y cynllun;

 

b) bod methiannau sylweddol o ran targedu'r bobl ifanc hynny sydd angen help i ddod o hyd i waith fwyaf; ac

 

c) bod y rhai a oedd yn cymryd rhan yn y cynllun wedi'u cyfyngu i gyflogau isel, gan ennill dim ond 67 y cant o'r cyfartaledd ar gyfer eu grŵp oedran.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganolbwyntio cynlluniau cyflogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn y dyfodol ar wella lefelau sgiliau, cynyddu nifer y prentisiaethau a datblygu cyfleoedd hyfforddiant sy'n seiliedig ar waith, a fyddai'n cefnogi pobl ifanc sy'n fwyaf tebygol o wynebu diweithdra hirdymor a rhoi sgiliau a chyfleoedd iddynt a fydd yn helpu i adeiladu economi gryfach i'w galluogi i lwyddo mewn bywyd.

 

Mae adroddiad gwerthuso Twf Swyddi Cymru ar gael yma

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

1. Yn cydnabod bod economi Deyrnas Unedig gref:

 

a) yn creu'r amodau ar gyfer twf o ran cyfleoedd swydd i'n pobl ifanc;

 

b) yn herio ysgolion, sefydliadau addysg bellach ac uwch, llywodraethau a chyflogwyr i nodi a diwallu sgiliau sydd eu hangen yn y farchnad gyflogaeth sy’n tyfu; ac

 

c) yn caniatáu i entrepreneuriaid ifanc fanteisio ar gyfleoedd sy'n deillio o dwf economaidd.

 

Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

 

Yn nodi bod cynllun blaenllaw Llywodraeth Cymru, sef Twf Swyddi Cymru, wedi'i gau yn sydyn ac yn galw am adfer rhaglen sy'n cyfateb iddo yn gyflym.

</AI6>

<AI7>

6 Cyfnod pleidleisio 

</AI7>

<AI8>

</AI8>

<AI9>

7 Dadl Fer - Gohiriwyd (0 munud)

</AI9>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 5 Mai 2015

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>